17 Chwefror 2016
Annwyl Emyr,
Dyraniad cyllideb Llywodraeth Cymru i Gyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2016-17
Ar 21 Ionawr 2016, buom yn holi’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol am y gostyngiad yn y gyllideb a gynllunir ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru yn 2016-17.
Gwyddoch ein bod wedi codi pryderon o’r blaen ynghylch lefel yr adnoddau sy’n cael ei darparu i Gyfoeth Naturiol Cymru, yn enwedig yng ngoleuni’r dyletswyddau cynyddol y bydd yn gyfrifol amdanynt o dan y gyfres o ddeddfwriaethau a basiwyd yn ystod y Cynulliad hwn (er, rydym yn nodi bod y Gweinidog wedi ein sicrhau nad yw’r rhain yn ddyletswyddau ychwanegol, ond yn hytrach, yn ffordd wahanol o weithredu).
Wrth ymateb i’r Pwyllgor Cyllid, fe wnaethom ymrwymo i ysgrifennu atoch, i ofyn am eich barn am oblygiadau’r setliad cyllideb hwn ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru.
Yn benodol, byddem yn ddiolchgar o gael rhagor o fanylion am wasanaethau a allai weithredu mewn mwy o berygl yn awr, ac a oes oedi wedi gorfod digwydd o ran unrhyw ffrydiau gwaith, ail-broffilio, neu atal gwaith yn gyfan gwbl.
Byddem hefyd yn gwerthfawrogi eich barn ar unrhyw bwysau ariannol y gallai Cyfoeth Naturiol Cymru ei wynebu yn y dyfodol, a phwysau ariannol yr ydych yn cynllunio ar ei gyfer.
Yn gywir
Alun Ffred Jones AC
Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd